Cwtsh i bawb!
Diolch am ddangos diddordeb mewn cylch chwarae Cymraeg sy’n cyfarfod ar benwythnos, i’r plantos (a’r bobl fawr!) gael cymdeithasu yn Gymraeg!
Pryd mae Cwtsh?
Bob yn ail Sadwrn.
Gweler y calendr ar y dde.
Byddwn yn cyfarfod rhwng 2.30 – 4.30 y pnawn.
Ble mae Cwtsh?
Yng Nghanolfan Cymry Llundain, 157-163 Gray’s Inn Road, WC1X 8UE. Diolch o galon i’r Ganolfan am estyn croeso cynnes inni.
Beth sydd angen inni ddod i Cwtsh?
Bydd tê a choffi ar gael, ond dewch â byrbrydau a diodydd i’ch plant os gwelwch yn dda.
Cofiwch na allwn ofalu am blant heb eu rhieni neu ofalwyr, a bydd galw felly i chi fel rhiant neu ofalwr fod yn bresennol trwy’r adeg I oruwchwilio eich plant / plentyn.
Gwybodaeth am Cwtsh
Rydym yn gyrru cylchlythyr ar e-bost yn rheolaidd i bawb sydd eisiau clywed am Cwtsh. Rhowch wybod inni os gwelwch yn dda os ydych chi am dderbyn e-bost gennym. Mae manylion am Cwtsh yn ymddangos hefyd ar wefan Canolfan Cymry Llundain.
Helpwch Cwtsh!
I Cwtsh fod yn llwyddiant, mae arnom angen eich help chi! Gweler yma.
Cofiwch: Mae pawb angen Cwtsh!
Rydym yn gynhyrfus iawn ynghylch Cwtsh ac yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld yn fuan!